The PDR logo
Hyd 23. 2020

Deall defnyddwyr ar adeg o newid

GWEITHDY DI-DÂL AR-LEIN

Ar 2 Tachwedd 2020, mae Ollie Sutcliffe a Piotr Swiatek, sef arbenigwyr Dylunio Gwasanaethau PDR, yn cynnal gweithdy di-dâl ar-lein ar Ddylunio Gwasanaethau ar gyfer busnesau micro, bach a chanolig yng Nghymru.

Cynhelir y gweithdy cyntaf hwn ar Zoom, a bydd yn sôn am y broses o Ddylunio Gwasanaethau, o’r cam ymchwil defnyddwyr ac ymchwil i'r farchnad, i werthuso canfyddiadau i gynhyrchu syniadau - a sut i roi’r broses hon ar waith yn eich busnes eich hun.

BETH YW DYLUNIO GWASANAETHAU? CANLLAW CYFLYM

Dylunio gwasanaethau yw cydweithio â defnyddwyr, staff cyflenwi a rhanddeiliaid eraill i chwilio am atebion sy’n rhoi mwy o foddhad i bawb trwy wneud y cynnwys yn syml a phrofiad defnyddwyr yn reddfol.

Mae'n ddull amlddisgyblaeth sy'n cyfuno gwahanol ddulliau ac offer o wahanol ddisgyblaethau, megis ethnograffeg, seicoleg, ymchwil defnyddwyr, dylunio rhyngweithio, dylunio cynnyrch, marchnata gwasanaethau, strategaeth gorfforaethol a rheoli.

Sut gall hyn helpu busnesau micro, bach a chanolig? Wel, mae dylunio gwasanaethau yn darparu iaith ac offer i ystyried y cynnig busnes yn gyfannol o ran y sefydliad a'r defnyddiwr yn gyfartal. Gall ddangos pa bethau allai agor cyfleoedd newydd ar gyfer twf a gwella busnes.

BETH YW'R DIGWYDDIAD?

'Understanding consumers in the time of change: Service Design workshop' - Dydd Mawrth 8 Rhagfyr, 3 - 4.30pm | Di-dâl | Cynhelir ar-lein ar Zoom

Rydym yn treialu rhaglen gymorth ddi-dâl ar gyfer dylunio gwasanaethau fel rhan o'r prosiect User-Factor sy’n cael ei gyd-ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Raglen Ardal yr Iwerydd Interreg. O'r herwydd, mae'r rhaglen yn rhad ac am ddim i fusnesau micro, bach a chanolig eu maint (MSMEs) yng Nghymru.

Mae'r rhaglen yn dechrau gyda'r gweithdy byr a chraff yn rhoi cyflwyniad i ddylunio gwasanaethau, gyda sesiwn ymgynghori un-i-un arall ar gyfer busnesau sydd â diddordeb.

Os ydych chi’n fusnes bach a chanolig yng Nghymru ac yn awyddus i greu rhywbeth unigryw i'ch cwsmeriaid, gallwch ddysgu sut gallwn ni helpu drwy'r rhaglen beilot hon sydd wedi ei hariannu’n llawn.

Sylwch y byddwn yn recordio'r digwyddiad hwn at ddibenion marchnata yn y dyfodol. Os byddai'n well gennych beidio bod yn rhan o'r recordiad, rhowch wybod i ni ymlaen llaw.

Mae’n gyffrous estyn allan at fusnesau bach ar adeg heriol o bosib. Gobeithio bod amseriad y prosiect hwn - a'n gweithdy ymarferol - yn fodd i roi i fusnesau bach y cymorth angenrheidiol pan fyddant ei angen fwyaf.

OLLIE SUTCLIFFE | DYLUNYDD | PDR

SUT BYDDWCH AR EICH ENNILL?

Rydym am helpu i gefnogi eich busnes drwy edrych ar anghenion defnyddwyr/cwsmeriaid a'r heriau rydych chi'n eu hwynebu gan weithio gyda chi i ddeall pam, creu syniadau ar gyfer atebion, eu profi ar sail y wybodaeth honno a chynnal gwerthusiad.

Bydd y gweithdy yn cynnwys esboniad o'r broses o ddylunio gwasanaethau, o ymchwil defnyddwyr ac ymchwil i’r farchnad, i werthuso canfyddiadau a chynhyrchu syniadau. Bydd wedyn yn rhoi trosolwg o sut i roi’r broses hon ar waith yn eich busnes eich hun. Bydd tasg fer hefyd lle bydd cyfranogwyr yn gallu dysgu'n uniongyrchol sut i blotio profiadau eu cwsmeriaid a nodi rhannau o'r profiadau hynny i ganolbwyntio arnynt.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gweld beth y gall dylunio gwasanaethau ei gynnig i’ch busnes, cewch wahoddiad i gysylltu ar ôl y gweithdy i drafod sut gallwn ni eich cefnogi gyda gweithredu’ch prosiect gydag ymgynghoriaeth ymchwil a dylunio. Byddwn yn gweithio'n agos ar weithredu ymyriadau dylunio gyda hyd at 10 busnes.

AR GYFER PWY MAE’R PROSIECT?

Oherwydd natur ariannu'r prosiect hwn, mae'r cymorth wedi'i anelu at fusnesau micro, bach a chanolig eu maint yng Nghymru yn unig.

(Ar gyfer y digwyddiad hwn, ni allwn dderbyn unigolion neu gwmnïau sydd y tu allan i'r meini prawf cymhwysedd hyn. Os hoffech wybodaeth am weithdai y gallech fod yn gymwys ar eu cyfer yn y dyfodol, gwiriwch ein sianeli LinkedIn / Instagram / Twitter / Facebook).

Mae lleoedd ar gyfer y digwyddiad hwn wedi'u cyfyngu i 25 o fentrau - felly gwnewch yn siŵr eich bod yn sicrhau eich lle.

PRYD, SUT A PHWY?

Cynhelir y gweithdy ar Zoom ddydd Mawrth 8fed Rhagfyr am 15:00.

Bydd mynychwyr cofrestredig yn derbyn dolen Zoom cyn y gweithdy.

Y ddau arbenigwr a fydd yn eich arwain ar ddylunio gwasanaethau PDR yw Ollie Sutcliffe a Piotr Swiatek.