The PDR logo
Chw 05. 2020

Tueddiadau o ran Polisi Dylunio o Taiwan

Roedd polisi dylunio bob amser yn arfer bod yn faes diddordeb cymharol arbenigol; fodd bynnag, mae nifer cynyddol o lywodraethau, canolfannau ymchwil a sefydliadau dylunio yn archwilio’r hyn y gall polisi dylunio ei gyfrannu at wella perfformiad o ran dylunio. Ddwy flynedd yn ôl, cychwynnodd DesignSingapore Council weithgor anffurfiol i archwilio arferion gorau byd-eang o ran datblygu, gweithredu a gwerthuso polisi dylunio, sef yr International Design Policy Roundtable. Y llynedd, cynhaliais y digwyddiad ym Mrwsel mewn cydweithrediad â BEDA a Design4Innovation. Ym mis Ionawr eleni, roedd yn wych bod Taiwan Design Centre – Taiwan Design Research Institute erbyn hyn – yn croesawu’r digwyddiad. Mae cael cyfle i rannu gwersi ar bolisi dylunio bob amser yn fy arwain i fyfyrio ynghylch ble rydym wedi bod ac i ble rydym yn mynd. Ac, wrth gwrs, mae bob amser yn gyfle gwych i gysylltu â ffrindiau ac ymarferwyr hen a newydd.

Gan agor gyda fideo hyrwyddo am ardal fynyddig wledig yn Taiwan o’r enw Taitung, nododd Cadeirydd Taiwan Design Institute, Mr. Chi-Yi Chang, y dylem ddychwelyd at y bodau gwyllt ydym ni. Gwnaeth hyn imi feddwl am sut mae polisi dylunio wedi esblygu a sut gall tueddiadau fod yn gylchol yn aml a’i bod yn ymddangos ein bod yn dychwelyd at wreiddiau polisi dylunio, yn ogystal â mynd i leoedd ‘gwyllt’ nas darganfuwyd yn y maes. Yn y degawd 2000-2009, roedd gwreiddiau polisi dylunio yn gadarn iawn yn y gwaith o ysgogi cwmnïau bach i ddefnyddio dylunio – dadrisgio buddsoddiadau mewn dylunio, cysylltu dylunwyr a chwmnïau newydd sy’n defnyddio dylunio ar gyfer allforio a gwasgaru’r ffocws di-baid ar ddefnyddwyr. Yn y degawd dilynol, dechreuodd dylunio ar gyfer arloesi yn y sector cyhoeddus, yn enwedig adfywio gwasanaethau cyhoeddus a chyflwyno dylunio i’r broses bolisïau, fagu gwreiddiau mewn polisïau dylunio. Yn y degawd newydd a dewr hwn, mae cydbwysedd rhwng y ddau rym unwaith eto – dylunio ar gyfer arloesi mewn busnes a dylunio ar gyfer adnewyddu’r sector cyhoeddus drwy fframiau’r economi gylchol, gwerthoedd dynol a’r maes digidol.

Bellach, mae’r Taiwan Design Research Institute yn cychwyn ar daith i ddatblygu polisi dylunio, wedi’i hysgogi’n rhannol gan y diddordeb enfawr mewn dylunio a grëwyd yn sgil enwi Taipei fel Prifddinas Dylunio’r Byd yn 2016. Yr ymgyrch hon oedd y tro cyntaf i’r llywodraeth ystyried dylunio fel sbardun twf a chystadleurwydd. Fe wnaeth amrywiaeth o weithdai ar bolisi cyhoeddus, dinasoedd cynaliadwy, effaith gymdeithasol a byw yn y dyfodol blannu’r hedyn ymhlith y llywodraeth a’r cyhoedd. Mae hyn yn wir yn adlewyrchu fy mhrofiad o effaith Blwyddyn Dylunio Iwerddon ar bolisi dylunio yn Iwerddon, a gyflwynais i’r grŵp.

Rhai sylwadau pellach ar y tueddiadau o ran polisi dylunio, sy’n ychwanegu at fy eitem ychydig flynyddoedd yn ôl:

• Mae polisïau dylunio yn dod yn fwy thematig, gan ganolbwyntio ar heriau cymdeithasol, economaidd ac ecolegol, fel heneiddio’n iach, yr economi gylchol, dinasoedd clyfar, gwerthoedd cymdeithasol, data mawr, deallusrwydd artiffisial a’r rhyngrwyd pethau.

• Mae polisïau dylunio yn dod yn ôl i’r dechrau, gan ganolbwyntio ar ddiwydiant a’r sector cyhoeddus, yn ogystal â chyflenwad a galw ar draws yr Ecosystem Ddylunio.

• Nid yw gweledigaethau yn ddigon; mae’n rhaid bod metrigau gweladwy a dangosyddion gwerthuso.

• Mae polisi dylunio sy’n anwybyddu’r dimensiwn cynaliadwyedd amgylcheddol yn bell ohoni.

Mae polisi dylunio yn dal i gystadlu (a bydd bob amser yn cystadlu) gyda meysydd polisi eraill mewn tirwedd bolisi gynyddol orlawn ac felly rhaid iddo ganolbwyntio ar yr hyn y gall dylunio ei wneud i gyflawni blaenoriaethau ehangach y llywodraeth a pheidio â bod yn rhestr ddymuniadau i’r sector.

Mae arnom angen gwell dealltwriaeth o sut gall dylunio gyfrannu, er enghraifft defnyddio data yn foesegol, datblygiadau deallusrwydd artiffisial, datblygu’r rhyngrwyd pethau a her hollbresennol newid ymddygiad o ran cynaliadwyedd amgylcheddol.

I mi, gwerth y digwyddiadau hyn bob amser yw’r prawf bod yr hyn rydych chi’n ei wneud yn eich ymarfer eich hun yn gyson â’r hyn sy’n digwydd mewn mannau eraill. Ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, roeddwn i, ar y cyd â’m cydweithiwr gwych, Piotr Swiatek, wedi datblygu papur safbwynt BEDA, ‘Next Generational Design Policy for Europe’, ac ar sail y safbwyntiau a rannwyd yn yr International Design Policy Roundtable yn Taipei, rwy’n credu ein bod wedi cyrraedd y nod. Fodd bynnag, rydym yn croesawu sylwadau wrth gwrs!