The PDR logo

The Assure

Acticheck

Mae The Assure yn system rhybudd personol chwyldroadol. Wedi’i ysbrydoli gan sgwrs gyda’i fam, nod ei sylfaenydd Karl Gibbs oedd datblygu atebion i bobl sy’n byw ac yn gofalu am y sawl sy’n byw ar eu pen eu hun.

SICRWYDD 24/7

Wedi’i ddylunio i fod yn gysurus ac yn hawdd ei ddefnyddio’n hirdymor, gall The Assure gael ei wisgo gan unrhyw un, unrhyw le. Gan wirio iechyd y gwisgwr yn gyson, mae’r band yn olrhain symudiad a thymheredd y corff. Os bydd larwm yn cael ei godi, cysylltir ar unwaith â rhwydwaith cefnogaeth y gwisgwr. Yn wahanol i atebion tebyg, nid yw The Assure yn dibynnu ar ei wisgwr i sbarduno larwm. Mae’n wrth-sioc a cyn wrth-ddŵr, ac mae The Assure yn cynnig sicrwydd cyson 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Gydag oes batri nodweddiadol o ddwy flynedd, nid oes angen ei ailwefru byth.

HYBU ANNIBYNIAETH

Mae The Assure yn cynnig anibyniaeth i’r sawl sy’n byw, yn gweithio, neu’n chwarae ar eu pen eu hun, neu nad ydynt mor hunan-gynhaliol ag oeddent unwaith. Mae’n ddelfrydol i bobl ag anghenion meddygol penodol yn ogystal â’r sawl sy’n gweithio ar eu pen eu hun a mabolgampwyr unigol sy’n dymuno cael lefel ychwanegol o ddiogelwch personol.

Dewch i Drafod

Cysylltu