The PDR logo

Gwely Ysbyty Bariatrig

Nightingale Beds Ltd

Dylunio a gweithgynhyrchu gwely ysbyty bariatrig am y farcgnad fyd-eang.

Y r amcan busnes craidd oedd gweddnewid hynt Nightingale Care Beds trwy adolygu ei cynnyrch craidd a gynigiodd ymarferoldeb, perfformiad a gwerth sylweddol well.

Bu’n rhaid cyflawni’r newid hwn yn ei atyniad i’r farchnad ochr yn ochr â gostyngiadau sylweddol yn strwythur cost y cynnyrch gyda chyllideb cyfarparu gyfyngedig iawn ynghyd ag amserlen am y prosiect cyfan o 9 mis o’r briff i’w lansio.

Datgelodd ymchwil sylfaenol helaeth ymhlith cleifion a gofalwyr fethiannau mewn darparu cynhyrchion ‘safonol’ cryfach am ofal cleifion gordew iawn. Roedd yn hanfodol deall yn llawn anghenion gofalwyr a chleifion fel ei gilydd ac ymgorffori’r rhain yn ganolog yn y broses ddylunio. Roedd hyn yn ganolog i ateb sy’n ymdrin yn llawn ag anghenion clinigol a gweithredol gofalwyr ond hefyd, yn holl-bwysig, urddas a lles ehangach cleifion sydd yn aml ar gyrion gofal iechyd ansawdd da.

Mae’r ateb dylunio a greodd ProAxis Plus nid yn unig yn diwallu ond yn rhagori ar bob safon diogelwch a pherfformiad perthnasol a galwadau manyleb dyluniad gwreiddiol y cynnyrch gan gynnwys amrediad taldra, llwyth gweithio diogel a phroffilio i leddfu pwysau.

Cyfranodd yr ymagwedd sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn gryf at ddyluniadau rhyngwyneb ergonomig a greddol ymarferol. Hefyd mae’r gwely yn hawdd iawn ei lanhau a’i gynnal ac er ei fod yn eithriadol o gryf mae’n syml ei symud a’i leoli gydag ychydig iawn o ymdrech.

Mae ailddyluniad gwely ysbyty ProAxis yn enghraifft o ddylunio effeithiol yn gweitherdu’n sbardun ac yn gatalydd i weddnewid arian cwmni bach, sy’n ymroi i weithgynhyrchu yn y DU ac sydd hefyd yn gorfod cystadlu’n llwyddiannus â chwmnïau gofal iechyd byd-eang gyda mynediad i weithgynhyrchu a marchnad ledled y byd.

O fewn tair blynedd ers ei lansio, mae gwerthiannau wedi codi 287% ac mae proffidioldeb wedi cynydud’n sylwedddol. Cafodd costau deunyddiau’r cynnyrch, o’u cymharu â’r cynyrch blaenorol, eu lleihau gan fwy na 25% gan leihau cost y cynnyrch a rhyddhau arian parod trwy ddal llai o stoc.

Dewch i Drafod

Cysylltu