The PDR logo

Brace

R&D SURGICAL LTD

Bres cenhedlaeth nesaf ar gyfer trin Pectus Carinatum (sydd hefyd yn cael ei alw’n pigeon chest) lle mae asgwrn y frest yn ymwthio’n ormodol, sy’n effeithio ar dua 1 ym mhob 400 o blant.

Mae’r driniaeth yn golygu cywasgu dros gyfnod i ganiatáu i’r asgwrn ddatblygu’n gywir. Nid yw’r bresi presennol wedi newid ers yr 20fed ganrif gynnar. Mae’r rhain yn angysurus, yn cyfyngu gweithgarwch, yn anodd eu gwisgo, a cyn anodd eu cuddio, gan gynyddu teimladau o unigedd a stigmateiddio i gleifion sy’n nodweddiadol yn fechgyn yn eu harddegau.

BRES NEWYDD

Mae’r bres newydd wedi’i ddylunio i ffitio’n destlus ac yn gynnil o dan ddillad gan ddefnyddio deunyddiau cyfoes a mecanweithiau hawdd eu defnyddio er mwyn creu ateb mwy cysurus, sy’n effeithiol yn glinigol.

CYFFYRDDIAD MEDDAL

Mae’r bres yn fain ac yn defnyddio cyfuniad o ddeunyddiau gan gynnwys elastomerau a ffabrigau technegol i helpu cysur a ffit. Mae’r uned yn gwbl addasadwy i greu ffit pwrpasol ac ansymetrig yn ôl yr angen i ganiatáu ei wisgo’n gysurus drwy gydol y dydd heb rwbio, anghysur gormodol a swmp o dan ddillad.

OPSIYNAU

Ar gael mewn tri maint gydag addasiadau lluosog sy’n gadael i’r defnyddiwr addasu’r ddyfais yn rhwydd i’w ofynion ei hun.

Dewch i Drafod

Cysylltu