The PDR logo

Callisto

Timesco

Fe'i crëwyd i wella mynediad at laryngosgopau a’u hargaeledd, mae Callisto’n cynnig ymarferoldeb ac ergonomeg well, wrth leihau croes-heintio hefyd.

Yn aml, mae gweithgynhyrchwyr yn wynebu'r her o ddiwallu anghenion marchnadoedd gwahanol gydag un cynnyrch unigol.

Effeithir ar ddarpariaeth gofal iechyd mewn tiriogaethau byd-eang gwahanol gan hyfforddiant ac ymarfer, yn ogystal â'r adnoddau sydd ar gael.

Roedd Timesco, un o ddarparwyr cynhyrchion anesthesia mwyaf Ewrop, yn wynebu gofynion gwahanol y farchnad ar gyfer cenhedlaeth nesaf eu cynhyrchion laryngosgopeg. Yn y DU ac Ewrop, roedd ymarfer gofal iechyd yn symud tuag at gynhyrchion llawfeddygol 'untro', mewn ymateb i ofnau o ran croes-halogi gan gyfryngau a gludir yn y gwaed na ellid eu lladd na'u dileu’n llwyr gan dechnegau sterileiddio ysbyty traddodiadol.

Ar yr un pryd, sylwodd Timesco ar y galw mewn gwledydd datblygol am system mewndiwbio cost isel y gellid ei sterileiddio a'i bweru mewn tiriogaethau ac amgylcheddau lle mae adnoddau'n gyfyngedig.

Datblygodd PDR system laryngosgop ar gyfer Timesco i fynd i'r afael â’r ddau angen yn y farchnad. Gan ddefnyddio polymer acrylig datblygedig y gellir ei sterileiddio a'i ailgylchu, gellir pweru coes Callisto naill ai gyda batris celloedd botwm bach ar gyfer defnydd untro, neu fatris maint 'C' safonol pan fwriedir defnyddio’r goes yn fynych.

Waeth beth yw tiriogaeth y farchnad, mae pob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol eisiau cynhyrchion sy'n gadarn, yn ddibynadwy, yn hawdd eu defnyddio ac sy’n gweithio'n dda. Mae coes Callisto ar gael mewn dau faint i weddu i ddwylo'r anesthetydd a maint y claf. Mae'r gwaelod ymledol yn golygu bod y laryngosgop yn sad, hyd yn oed gyda 'llafn' ynghlwm wrtho, ac yn hawdd ei gydio a'i symud yn fanwl gywir.

Dyluniwyd gosodiad y llafn yn ôl safonau rhyngwladol fel y gellir defnyddio'r Callisto gyda chasgliad llafnau Timesco neu lafnau cydweddol gan wneuthurwyr eraill sy'n cwrdd â'r un safonau.

Drewch i Drafod

Cysylltu