The PDR logo

Dyfaid Monitro’r Galon

Melys

ARLOESI CYFRESOL

Mae Melys Diagnostics Ltd yn gwmni preifat a sefydlwyd yn gynnar yn 2004 i ddatblygu offer monitro cleifion anfewnwthiol. Mae gan sylfaenwyr y cwmni hanes hir o arloesi technolegol cyfresol llwyddiannus ym maes gofal iechyd yn enwedig gyda datblygiadau mewn perthynas â synhwyro diagnostig anfewnwthiol.

Daeth Melys atom gyda’r datblygiad ar y cam prototeip swyddogaethol a fu’n sail i offeryn sgrinio effeithiol ar gyfer ffibriliad atrïaidd – rhythm calon afreolaidd, cyflwr sy’n fwyfwy cyffredin yn y byd gorllewinol.

Ar hyn o bryd, mae meddygon teulu yn defnyddio prawf crychguriadau pwls i sgrinio cleifion yn effeithiol cyn eu hatgyfeirio am brofion manwl pellach (yn nodweddiadol ECG). Mae’r sgrinio hwn yn ddibynnol ar gyffyrddiad yn gofyn am sgil mawr ac yn hynod o oddrychol.

DYLUNIAD CYFLYM, DIBYNADWY, HAWDD EI DDEFNYDDIO, SY'N GYFLYM I'R FARCHNAD

Mae’r offeryn mae Melys Diagnostics wedi’i ddatblygu yn ddull syml a dibynadwy iawn i sgrinio cleifion sydd â ffibriliad atrïaidd posibl am brofiad pellach.

Roedd angen i ni becynnu’r dechnoleg yn gyflym i greu cynnyrch ssy’n addas i’w ddefnyddio a’i werthu. Cafod dmonitor bach, cryno, dibynadwy ei ddatblygu’n gyflym i’w ddefnyddio mewn ymarfer cyffredinol fel offeryn sgrinio sylfaenol, yn systemau gofal iechyd gwledydd datblygedig a’r rhai sy’n dal i ddatblygu.

Dewch i Drafod

Cysylltu