The PDR logo

Dylunio Gwasanaethau ar gyfer yr ECB

BANC CANOLOG EWROP

Dyfarnwyd cobtract fframwaith tair blynedd i ni i ddarparu ystod o wasanaethau meddwl dylunio i dimau ac adrannau o fewn Banc Canolog Ewrop (ECB).

Mae gennym ystod eang o gynigion dylunio a gweithiwn gyda thimau’r ECB ar brosiectau pwrpasol, gan gynnwys:

• Tŷ Gwydr – ein sesiwn hyfforddiant cymhwysol ar feddwl dylunio.

• Gwasanaeth Dylunio – hwysulo datblygu cysyniadau gwasanaeth gyda defnyddwyr.

• Dylunio Polisi - hwysulo datblygu polisïau a chynlluniau gweithredu gyda defnyddwyr.

• Hap-Ddylunio – hwyluso ar feddwl y dyfodol.

• Dylunio â Ffocws ar Ddefnyddwyr - ymchwil i gasglu dirnadaeth drylwyr am ddefnyddwyr.

Hyd yn hyn, rydym wedi cyflwyno mwy na 30 o weithdai ynn cynorthwyo aelodau staff ledled Banc Canolog Ewrop ar bynciau fel ystwytho prosesau mewnol, datblygu strategaethau, casglu dirnadaeth ar gyfer gwasanaethau newydd, a gwella systemau llywodraethu.

Roedd y gweithdai wedi’u paratoi’n hynod o dda. Mae’r daflen yn rhagorol. Nid wy erioed wedi derbyn deunyddiau cystal, wedi’u cyflwyno’n braf, ac yn hawdd eu darllen. Llongyfarchiadau i’r Hyfforddwyr.

CYFRANOGWR GWEITHDY | ECB

Dewch i Drafod

Cysylltu