The PDR logo

Dylunio Gwasanaethau Cyhoeddus Effeithiol

Design Silesia

Roedd ‘Design at your Service’ yn fenter a arweiniwyd gan Design Silesia – prosiect Swyddfa Marsial Rhanbarth Silesia yng Ngwlad Pŵyl.

Yn dilyn cyfres o brosiectau llwyddiannus gyda’r sector preifat, roedd tîm Design Silesia am ddatblygu prosiect i ddylunio gwasanaethau’r sector cyhoeddus. I sicrhau datblygu arbenigedd lleol, y nod oedd creu tîm o dylunwyr gwasanaeth medrus a phrofiadol yn rhanbarth Silesia.

Caswom ein gwahodd gan Design Silesia i sefydlu fframwaith a set o offer a gymerwyd o broses arloesi gwasanaeth carlam o’r enw “Tŷ Gwydr”. Cafodd proses gymhwyso ei chreu i ddethol tîm o ddylunwyt a thri chorff cyhoeddus lle byddai’r prosiectau arddangos yn digwydd. Yna mynychodd y tîm a ddewiswyd wythnos ddwys o weithdai, seminarau, a hyfforddiant yn PDR, lle cymhwysodd y tîm yr offer a’r prosesau i brosiect byw. Darparom ni fentora i’r dylunwyr yng Ngwlad Pŵyl a oedd yn goruchwylio’r prosiectau arddangos gyda chyrff cyhoeddus yn Silesia.

Y canlyniad oedd datblygu model cost-effeithiol am drosglwyddo gwybodaeth yn rhyngwladol, a sicrhaodd fod sgiliau gwasanaeth dylunio a ddatblygwyd ar y prosiect yn aros yn y rhanbarth ac y gallai’r prosiect gael ei atgynhyrchu, a’i raddfa ei hehangu. Ar ben hynny, cafodd tri chysyniad gwasanaeth newydd eu dylunio ar gyfer cyrff cyhoeddus yn Silesia a dyfarnwyd gwobr 2012 Design Management Europe i Design Silesia am wasanaethau cyhoeddus. Sefydlwyd capasiti Gwasanaeth dylunio yn Silesia a sefydlwyd Design Silesia fel y corff pennaf am arloesedd mewn gwasanaethau dan arweiniad dylunio yng Ngwlad Pŵyl.

Cyhoeddwyd arweiniad dwyieithog ymarferol i reolwyr gwasanaethau cyhoeddus am ddylunio gwasanaethau cyhoeddus effeithiol o ganlyniad i’r prosiect.

Newidiodd y broses ymagwedd sefydliadau at ddinasyddion a’r ffordd mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu dylunio yn Silesia.

EWELINA BUDZINSKA-GORA | DESIGN SILESIA

TEATR ZAGLEBIE (THEATRE BASIN)

Gweithiodd y theatr gyda dylunwyr gwasanaeth i ddechrau gwella’n sylweddol y gwasanaeth maent yn ei gynnig i’r cwsmeriaid.

SWYDDFA DOSBARTH POVIAT

Dechreuodd y sefydliad, sy’n cynnig ystod eang iawn o wasanaethau cyhoeddus i bobl yn y rhanbarth, edrych ar y profiad o ddefnyddio eu gwasanaethau a, chyda dylunwyr, greu dulliau newydd o’u cyflenwi.

SILESIAN CENTRE OF INFORMATION SOCIETY

Canolbwynt y prosiect dylunio gwasanaethau hwn oedd ORSIP, system gwybodaeth gofodol a mapio agored i swyddogion cyhoeddus a’r cyhoedd, a sut i gasglu data’n fwy effeithiol.

Ers y prosiect, daeth Silesia y rhanbarth pennaf am arloesi ar sail dylunio, gan gynnwys dylunio fel meta-gymhwysedd yn eu strategaeth ddatblygu.

Rhoddwyd y wobr DME o fri i ni am gefnogi a hyrwyddo dylunio arloesol, ni yw’r enillwyr cyntaf yng Ngwlad Pŵyl ac mae’n gwneud i ni deimlo’n falch iawn.

ADAM MATUSIEWICZ | MARSIAL SILESIA

Dewch i Drafod

Cysylltu