The PDR logo

System Rheoli Diabetes

CellNovo

Astudiaeth defnyddioldeb ffurfiannol sy’n cydymffurfio ag ISO 62366 ac HE.75

Mae Cellnovo yn gwmni dyfeisiau meddygol arloesol sydd wedi creu system rheoli inswlin arloesol ar gyfer cleifion Diabetes Math 1.

Mae’r system yn cynnwys pwmp pats inswlin, monitor gweithgarwch, set law sgrin cyffwrdd di-wifr, mesurydd glwcos gwaed integredig, a platfform ar-lein. Mae’r system arloesol hon yn gadael i ddefnyddwyr reoli’r cyflenwad inswlin wrth fyw eu bywyd bob dydd, cymryd darlleniadau glwcos gwaed, cyfrifo bolysau gyda chyfrifianell carbohyradau, a chofnodi data gweithgarwch a dietegol pwysig. Ar ôl rhyddhau’r cynnyrch yn llwyddiannus yn 2013, dechreuodd Cellnovo edrych tuag at ail fersiwn y cynnyrch. Roedd goruchwyliaeth pan oed dy cynnyrch yn y farchnad eisoes wedi marchnad awgrymu y byddai croeso mawr i uwchraddio’r sgrin cyffwrdd ac felly manteisiodd Cellnovo ar y cyfle i asesu’r rhyngwyneb ar gyfer gwelliannau defnyddioldeb eraill.

Cynhaliom ni astudiaeth defnyddioldeb ffurfiannol i ddyluniad a rhyngwyneb y set law. Gan gyfeirio at eu hasesiad risg, profom ni bob nodwedd gweithredu sylfaenol sy’n hanfodol i ddiogelwch gydag amrywiaeth o ddarpar ddefnyddwyr a oedd yn gleifion diabetes Math 1 a Math 2 (dibynnol ar inswlin). Adroddwyd yr astudiaeth yn ffurfiol, gan ddarparu dogfennaeth drylwyr am y Ffeil Peiriannu Defnyddioldeb sy’n ofynnol am nod CE ac achrediad yr FDA.

Ochr yn ochr â’r adroddiad ffurfiol, cyflwynom ddetholiad o argymhellion dylunio i gynnig atebion diriaethol yn erbyn y mewnwelediadau a grewyd.

Dewch i Drafod

Cysylltu