The PDR logo

Dose

CYSYNIAD PDR

Ymagwedd newydd at feddyginiaeth plant sy’n cyfuno dealltwriaeth drylwyr o ddefnyddwyr â thechnolegau profedig.

DOSE

Mae gweinyddu meddyginiaeth i blant yn anodd, ac yn ôl yr amcangyfrif mae cyfradd fethu o 40% yn y cartref. Mae canlyniadau gorddos yn gallu cynnwys problemau datblygiadol yn yr arennau, afu, a gweithredoedd anadlu.

Mae Dose yn ymagwedd newydd at feddyginiaeth gofal plant sy’n hoelio sylw ar y defnyddiwr ac yn cydnabod galwadau rhianta yn y byd go iawn, yr 21ain ganrif. Mae’r ddealltwriaeth hon o ddefnyddwyr ar y cyd â chymhwyso technolegau profedig rhwydweithio, cyfathrebu, a synhwyro yn dod ag ymagwedd llwy a photel oes Fictoria i mewn i’r 21ain ganrif ac yn creu system sy’n lleihau’n sylweddol camgymeriadau defnyddwyr.

INTEGREDIG

Cafodd Dose ei ddylunio’n system integredig, gyflawn sy’n ceisio cefnogi a galluogi rhieni i ddarparu meddyginiaeth yn y cartref hen y cyfraddau gwall defnyddiwr a gorddos. Mae’n cynnig dewis a rhyddid gweithrediad o fewn rhwystrau diogelwch amlwg sy’n ddymunol o atal niwed. Mae bob amser yn darparu gwybodaeth a chyngor am driniaethau meddygol hanesyddol a dyfodol ac yn darparu ar gyfer meddyginiaethau sy’n seiliedig ar Ibuprofen a Paracetamol ochr yn ochr â chyfleuster i gysylltu’n gyflym â gweithiwr proffesiynol hyfforddedig 24/7 pe bai angen rhagor o gyngor neu gymorth.

GYDA CHI 24 AWR, 365 DIWRNOD

Ynghyd â hanes defnydd, mae DoseApp yn cynnig rhybuddion a dulliau atgoffa am ddefnydd diogel, cyngor ac arweiniad ar iechyd plant. Yn ogystal â storio darpariaeth gofal iechyd lleol hanfodol, mae mynediad uniongyrchol i weithwyr proffesiynol hyfforddedig pan fo angen. Mae DoseApp hefyd yn cydnabod profiad unigryw bod yn rhiant ac yn cefnogi grwpiau trafod yn fyd-eang er mwyn rhannu profiadau a straeon.

Dewch i Drafod

Cysylltu