The PDR logo

Camau Cartref Cyntaf

Cymdeithas Adeiladu’r Principality

Dod ag eglurder i ddryswch ceisio prynu'ch cartref cyntaf.

Roedd Cymdeithas Adeiladu’r Principality yn chwilio am gyfleoedd i gynyddu eu busnes cynilo a morgeisi. Fel rhan o'r weledigaeth hon, fe ofynnon nhw inni ddod o hyd i ffordd a allai wneud y broses o gynilo ar gyfer prynu cartref, a phrynu cartref, yn haws i brynwyr tro cyntaf, gan eu hannog i gynilo ac yna i godi morgais gyda’r Principality.

Roedd PDR yn bartneriaid hanfodol wrth ein helpu ni i esblygu’r cynnig o’r cysyniadau cysyniadol cyntaf i brawf o gysyniad wedi’i ffurfio’n llawn. Roedd eglurder y mewnwelediadau’n gymhellol ac fe wnaethant ein galluogi ni i wneud cynnydd yn gyflym i gael hyn ar waith.

PENNAETH DATBLYGU CWSMERIAID | CYMDEITHAS ADEILADU’R PRINCIPALITY

CAM DARGANFOD CWSMERIAID

Er mwyn ymgolli yn y profiad o brynu cartref cyntaf, gwnaethom gynnal cyfweliadau manwl a gweithdai cyd-greu gyda phobl a oedd wrthi’n cynilo tuag at eu cartref cyntaf neu a oedd newydd brynu eu cartref cyntaf. O hyn, fe wnaethom fapio taith prynwyr tro cyntaf, eu harferion cynilo, a'r heriau yr oeddent yn eu hwynebu. Fe ddysgom fod prynu tŷ’n golygu rhyngweithio â'u darparwr ariannol mewn ffordd wahanol iawn i’r hyn a brofwyd gan y bobl hyn o'r blaen. Ochr yn ochr â hyn, buom yn siarad â broceriaid morgeisi i gael gwybod am yr offer a ddefnyddir ganddynt i gefnogi prynwyr tro cyntaf a'r cwestiynau cyffredin a ofynnir gan brynwyr.

DATBLYGU CYSYNIADAU CYNTAF

O ddadansoddi’r ymchwil a nodau busnes a chyfyngiadau’r Principality, fe wnaethom ganfod heriau blaenoriaethol i'n tîm dylunio gynhyrchu cysyniadau o’u cwmpas. Trwy ddulliau synio strwythuredig, crëwyd pum cysyniad cychwynnol gennym y’u mireiniwyd yn seiliedig ar ddichonoldeb gyda thîm y cleient. Ymysg y cysyniadau roedd cynhyrchion cynilion a morgais, yn ogystal â chymunedau cymorth ac offer digidol i ddefnyddwyr a broceriaid fel ei gilydd.

DATBLYGU CAMAU CARTREF CYNTAF

Defnyddiwyd y mewnwelediad o’r ymchwil a'r gwaith cysyniadol ar y cyd gan Principality i lywio’u gwaith o ddatblygu eu cynnwys ar-lein, ‘Camau Cartref Cyntaf’, ap cynllunio cynilion a chyfrif cynilo pwrpasol ar gyfer prynwyr tro cyntaf. Hwyluswyd ymchwil profi cysyniad pellach gennym i asesu gwerth nodweddion cynnyrch gwahanol a blaenoriaethwyd y rhain ar gyfer y lansiad cychwynnol. Ers lansio, mae nifer y lawrlwythiadau o'r ap wedi rhagori ar y disgwyliadau, ac ar y cyd â chynnwys cyfryngau cymdeithasol wedi'i dargedu, ysgogodd hyn gynnydd sylweddol yn yr ymweliadau â’r wefan gan y farchnad iau a flaenoriaethwyd.

Dewch i Drafod

Cysylltu