The PDR logo

Flo

YSGOL GWYDDORAU IECHYD CAERDYDD

Mae Flo yn newid chwyldroadol mewn canfod trawiadau ar y galon a strôc yn gynnar.

Mae lefydau’r galon yn cymryd bywydau 17.9 miliwn bob blwyddyn, 31% o holl farwolaethau’r byd gyda 75% yn digwydd mewn gwledydd incwm isel a chanolig, y mwyafrif helaeth yn cael eu priodoli i drawiadau ar y galon a strôc. Mae’r British Heart Foundation wedi amlygu bod nifer y bobl yn y DU sy’n marw o glefydau’r galon a chylchrediad y gwaed cyn 75 oed yn codi am y tro cyntaf mewn 50 mlynedd, tra bod nifer o astudiaethau o UDA ac Ewrop yn dangos cynnydd mewn trawiadau ar y galon ymhlith pobl dan 40 oed ac yn arbennig menywod. Mae’r codiad mewn strociau wedi cynyddu’n sylweddol y gofal seibiant a chlinigol hirdymor mewn gwledydd sy’n datblygu wrth i gyfraddau goroesi gynyddu ond yn gadael pobl gyda nam corfforol a gwybyddol dirfidol.

SHWMAE FLO

Mae Flo yn ymagwedd chwyldroadol sy’n seiliedig ar ymchwil helaeth yn y DU a Columbia. Mae tair technoleg allweddol - troswyr uwchsain symudol cost-isel, cyfrifiaduro symudol ac AI – yn cyfuno i ganiatau newid gwirioneddol mewn canfod trawiadau arm y galon a strôc yn gynnar. Mae natur symudol a chost-isel y system yn galluogi monitro gwirioneddol, o guria di guriad, pwysedd a llif cyson o fewn yr ymennydd, gan wella cywirdeb diagnosis yn ddirfawr a mynediad i boblogaeth cleifion byd-eang fwy.

TECHNOLEG A HYSBYSRWYDD FLO

Mae system Flo wedi’i dylunio i gael ei defnyddio i ffwrdd o glinigau a chanolfannau poblogaeth mawr ac mae iddi dair cydran graidd. Yn dilyn asesiad cychwynnol gan GP mae troswr uwchsain creuanol bach, cynnil, cost isel iawn, yn cael ei ddosbarthu i’r claf. Mae’r ddyfais ddi-haint, un-tro hon yn cael ei chymhwyso fel pats gan y GP i’r claf ac yn cael ei hactifadu wrth gael ei rhyddhau o’i phecyn.

Dewch i Drafod

Cysylltu