The PDR logo

Layr

CYSYNIAD PDR

Mae Layr yn ddull chwyldroadol sy’n dod â manteision clinigol, ymarferol a seicolegol clir o safbwynt defnyddwyr i broblemau cathetereiddio dros nos.

Y BROBLEM NAD YDYM YN SIARAD AMDANI

Mae anymataliaeth wrinol yn her gofal iechyd fyd-eang sylweddol sy’n effeithio, yn ôl yr amcangyfrif, ar rhwng 4% ac 8% o’r boblogaeth ar unrhyw un adeg; bron 400 miliwn o bobl ledled y byd.

Nid yw sacahau draenio wedi newid o ran dyluniad mewn bron 60 mlynedd. Wedi’u dylunio am amgylcheddau ysbyty, mae’r rhain yn sachau PVC syml, clir gyda graddfa faint ar un ochr, sy’nn cael eu hongian ar ffram metel neu blastig syml. Mae sachau nos a’u stondinau cysylltiedig yn peri llawer o anawsterau yn y cartref. Un allweddol yw’r gofid a stigmateiddio arbennig trwy welededd hyd at 2 litr o wrin sydd i’w weld yn amlwg yn y cartref.

CROESO I LAYR

Mae Layr yn ddull chwyldroadol sy’n dod â manteision clinigol, ymarferol a seicolegol clir o safbwynt defnyddwyr i broblemau cathetereiddio dros nos. Mae’n disobli sach PVC canol yw 20fed ganrif â ‘flask’ deallus, cysylltiedig sy’n gallu dod ag arbenigedd clinigol i mewn i’r cartref, ar yr un pryd â dileu’r stigma a’r anawsterau ymarferol sy’n gysylltiedig â systemau presennol.

ARLOESI Â’I FFOCWS AR BOBL

Mae’r ddyfais sefydlog, ailwefradwy a hawdd ei thrin yn dod ag estheteg newydd i deimlad diwydiannol systemau sach nos presenol sy’n stigmateiddio. Mae Layr gyn lleihau pryder a phroblemau ergonomig yn fawr, wrth ddod â manteision clinigol, diagnostig ychwanegol. Mae synwyryddion optegol gyda ‘chnap’ y gellir ei dynnu ar waelod y fflasg yn asesu lliw, maint a’r gyfradd lenwi.

Mae’r ‘puck’ yn cyfathrebu gwybodaeth gyfredol a hanesyddol i staff nyrsio cymunedol o bell neu trwy ymweliadau â’r cartref. Mae lefelau llenwi ac iechyd wrinol yn cael eu dangos yn glir drwy ddangosydd corfforedig cynnil, sy’n rhybuddio gofalwyr a chleifion pan fo angen ymyriadau mwy brys.

CYSGU’N DDIBRYDER

Mae cysylltiad syml a diogel â’r catheter yn galluogi cysgu’n ddibryder, tra bod y capasiti 2 litr a’r caead gwasu i’w selio yn dileu perygl gorlifo. Mae Layr yn sefydlog ac yn ddiogel gyda’i canolbwynt disgyrchiant ac ôl troed isel isel.

Mae datgysylltu o’r catheter yn syml ac yn ddiogel a gall y flask gael ei drin yn hawdd a’i wagio i mewn i doiled domestig. Ar ôl i’r ‘cnap’ gwaelodol diagnostig gael ei dynnu, mae Layr yn barod am y peiriant golchi llestri, yn hawdd ei lanhau a’i ddiheintio.

Dewch i Drafod

Cysylltu