The PDR logo

Stondin Sach Nos

Great Bear Healthcare

Stondin sach wroleg ymarferol, cost isel, pecyn gwastad.

Mae Great Bear Healthcare yn weithgynhyrchydd ystod eang o gynhyrchion wroleg yn y DU. Mae gan y sefydliad ymagwedd bositif at arloesi ac awydd gwirioneddol i ddod ag arloesedd a gwelliant i sector gofal iechyd sy’n effeithio ar filiynau o fywydau’n fyd-eang, ond sy’n cael ei esgeuluso’n aml ac yn glynu wrth atebion dylunio hen a thraddodiadol.

Er ein bod wedi gweithio gyda Great Bear ar nifer o ddatblygiadau arloesol, mae eu dymuniad i greu eu stondin nos pecyn gwastad eu hun i ddal eu hamrediad o sachau wrin nos yn arwydd o sylw’r cwmni i fanylion.

SYLW I’R PETHAU BYCHAIN

Mae stondinau sach nos yn gynnyrch gwerth isel iawn, sy’n cael eu rhoi i ffwrdd yn aml i gefnogi cyflenwad sachau wrin. I ddefnyddwyr, chwaraeodd y stondinau crog syml hyn rôl hanfodol mewn rheoli eu cyflwr wrinol yn ystod y nos.

Nid oedd Great Bear yn fodlon ar y cynigion presennol ar y farchnad y bu’n rhaid iddynt eu prynu a’u cyflenwi ac roedd eisiau dyluniad newydd arnynt. Er nad oedd hyn yn cynnig y cyfle am enillion ariannol sylweddol i’r sefydliad, roedd cyfle i greu rhywbeth a oedd yn sylweddol well na’r atebion isel eu hansawdd a fodolai, a allai helpu’n sylweddol i wella eu profiad yn ystod y nos.

CYFLYM, EFFEITHIOL, COST-ISEL, YMARFEROL

Roedd angen i ni ddylunio stondin sach nos cost isel iawn yn gyflym. Roedd angen iddo ddal pwysau hyd at 2 litr o hylif mewn ffordd sefydlog, ddiogel ar draws pob math o arwynebau llawr, yn ddomestig a chlinigol, yn ogystal ag wedi’i fachu ar welyau ysbyty â fframiau metel a’i dodi rhwng matres a ffram mewn yn y cartref. Roedd angen i’r stondin fod ar gael mewn pecyn gwastad a bod yn hawdd iawn ei osod ar y run pryd â dal yr amrediad llawn o sachau nos Great Bear a oedd ar gael.

Yn ogystal, rhaid i’r stondin reoli’r allanfa’r bibell o’r sach yn ofalus i sicrhau nad yw plygu a blocio’n bosibl.

Mae’r ateb dylunio a gynhyrchwyd yn syml ac yn hawdd ei gynhyrchu gan ddefnyddio ychydig iawn o ddeunyddiau, yn pecynnu’n wastad i’w gludo a’i storio ond yn gyflym ei godi yn blatfform sefydlog a chadarn ar gyfer sachau nos. Quickly adopted and implemented the stondin is now used in thousands o leoliadau domestig a chlinigol lle caiff sachau wroleg Great Bear eu defnyddio.

Dewch i Drafod

Cysylltu