The PDR logo

Ellyn R1

Bolin Webb

Ymbluo personol o’r radd flaenaf ac ellynnau perfformiad rhagorol.

Daeth Bolin Webb atom fel cwmni newydd gychwyn a chanddo weledigaeth uchelgeisiol. Roedd y sylfaenydd Derrick Webb yn anfodlon ar ellynnau’r farchnad dorfol i ddynion ac am ddod â rhagoriaeth dylunio cynnyrch i fyd eillio.

Roedd mymrym bach ohonom a oedd yn credu ei fod yn wallgof, ond roeddem yn hoffi ei angerdd, ei gred, a’i ymrwymiad.

WEDI’I YSBRYDOLI GAN RASIO MODUR CLASUROL

Aeth Derrick yn ei flaen i’n comisiynu i ddylunio ei gynnyrch gyntaf oll, sef ellyn R1. Roedd y briff yn dymuno i’r dyluniad fod wedi’i ysbrydoli gan rasio modur clasurol. Mae’r llinellau glân a’r ffurfiau bythol yn cipio ceinder ac ymdeimlad o symudiad ac egni rhewedig a oedd yn adlewyrchu gweledigaeth gychwynnol Derrick i’r dim ar gyfer beth fyddai cynnyrch lansio a sylfaenol y cwmni.

DYLUNIAD BYTHOL AM OES

Mae’r dyluniad a ddaeth i’r amlwg o ganlyniad yn creu ffurf lân, dynamig gyda chydbwysedd, pwysau a gorffeniad cynnyrch ymarferol, uchel ei ansawdd a fydd yn para am oes.

Gan gyfuno deigastio gwasgol a chwistrellu elastomerig, cafodd y cynnyrch ei ddylunio, prototeipio, ac aeth trwodd i’w weithgynhyrchu a’i lansio gan dîm dylunio PDR.

ENNILL GWOBRAU

Ers hynny mae’r cwmni wedi mynd o nerth i nerth, gan sicrhau safleoedd manwerthu o’r radd flaenaf yn y DU gan gynnwys Fortnum and Mason, John Lewis a Harrods ynghyd â safle rhyngwladol o Seoul yn y Dwyrain i San Francisco yn y Gorllewin lle mae mwy na hanner ellynnau’r cwmni yn cael eu hallforio erbyn hyn.

Mae’r ellyn wedi ennill Gwobr Dyluniad Da gan y Chicago Athenaeum, gwobr hynaf y byd am ddylunio, Gwobr iF Design, Rhod dy Flwyddyn a CoolBrand UK.

Dewch i Drafod

Cysylltu