The PDR logo

Pwmp Ymateb Clyfar

DIRECT HEALTHCARE SOLUTIONS

Dyfais gofal man pwyso glyfar, wedi’i galluogi’n ddigidol.

Mae Direct Healthcare Services (DHS) yn gweithgynhyrchu ac yn darparu atebion gofal mannau pwyso, gyda phortffolio o gynhyrchion arloesol, blaenllaw, gan gynnwys matresi, clustogau a throshaenau.

Mae gennym hanes helaeth mewn cynhyrchion gofal gweithredol mannau pwyso ac roeddem yn bartner amlwg i’r cwmni ddatblygu eu cynnyrch cwbl fewnol cyntaf.

DARPARIAETH GOFAL IECHYD CYSYLLTIEDIG AC WEDI’I GALLUOGI’N DDIGIDOL

Arweiniodd trafodaethau’n gyflym at weledigaeth a sefydlodd gynnyrch a ddarparodd gymorth pwysedd gweithredol mewn ysbytai ac yn y carteef o fewn darpariaeth gwasanaeth ehangach i ddarparu’r gwerth, perfformiad a meddwl cysylltiedig gorau posibl. Gwireddom ni’r cynllun hwn, gan ddylunio a phrototeipio’r Pwmp Ymateb Clyfar, gyda dyluniad ac ymarferoldeb yn wahanol i unrhyw gynnyrch arall ar y farchnad.

AROLSI AR SAIL DIRNADAETH DEFNYDDWYR, PROTOTEIPIO A PHROFI DEALLUS

Cafodd dyluniad ei ddod yn fyw yn gyflym trwy’r cyfuniad o ddirnadaeth defnyddwyr, dyluniad cynnyrch newydd ac arbenigedd peirianneg ochr yn ochr â phrofiad mewn dylunio gwasanaethau a rhyngweithrediadau, ynghyd â’r prototeipio deallus helaeth mewnol.

Cafodd y cynhyrchion ffisegol, sydd ag elfennau rhyngweithiol sy’n cynnwys cyfleuster ffôn clyfar ac integreiddiad gwasanaeth digidol, eu dylunio a’u profi ymhlith defnyddwyr ledled y DU.

Cafodd y system pwmp a matres brototeip ei chreu gan ddefnyddio cyfuniad o Raspberry Pi yn rhedeg sgript Python, meicro-reolydd Arduino atodol, plygiau amledd radio ac ap ffôn clyfar a ysgrifennwyd mewn Nativescript. Drwy ddefnyddio’r technolegau hyn roedd yn bosibl creu rhyngweithrediadau realistig a ddefnyddiodd fotymau ar y cynnyrch i gyfathrebu’n ddi-wifr ag ap ffôn clyfar, gan arwain at newidiadau pwysedd mewn matres a dangosyddion LED ar y pwmp ei hun.

Am ein bod yn gallu cyflenwi’r prosiect yn gyflym, roedd modd i DHS gasglu adborth y farchnad am gynnyrch a edrychodd ac a weithredodd yn union fel y byddai’r peth go iawn wrth fynychu digwyddiad y diwydiant.

Dewch i Drafod

Cysylltu