The PDR logo

SMART Suite

LLYWODRAETH CYMRU

Yn dilyn y strategaeth 'Arloesi Cymru', aeth y Tîm Arloesi o fewn Llywodraeth Cymru ati i ddatblygu ystod gynhwysfawr newydd o offerynnau cymorth er mwyn gwireddu uchelgeisiau'r strategaeth.

Mae'r uned arloesi’n gyfrifol am ddarparu cymorth a chyllid ar gyfer ymchwil, datblygu ac arloesi i fusnesau a sefydliadau ymchwil Cymru. Crëwyd set o fecanweithiau o'r enw’r SMART Suite ganddynt sy'n cynnwys rhaglenni cymorth ar gyfer codi ymwybyddiaeth (SMARTInnovation), masnacheiddio Ymchwil, Datblygu ac Arloesi trwy gydweithrediadau ymchwil-diwydiant (SMARTExpertise) a chymhellion ariannol ar gyfer buddsoddi mewn Ymchwil, Datblygu ac Arloesi (SMARTCymru).

Er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau i fuddiolwyr, gyda chymorth PDR, cymhwysodd y tîm ddull dylunio gwasanaeth i greu proses syml y’i cyfathrebir yn dda sy'n darparu profiad cwsmer o ansawdd uchel ar draws yr ystod gyfan o offerynnau cymorth.

Nod y prosiect oedd nid yn unig i ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr i ddeall safbwynt y cwsmer yn well a datblygu proses hawdd ei defnyddio a phrofiad cyson o ymgysylltu â'r rhaglenni cymorth arloesi busnes, ond hefyd i drosglwyddo'r gallu ‘meddwl dylunio’ i Lywodraeth Cymru a galluogi ei staff i ddefnyddio dulliau meddwl dylunio’n annibynnol.

Felly, datblygodd PDR becyn o offer, canllawiau a fframwaith ar gyfer rheolwyr LlC a gymerodd ran yn y gweithdy hyfforddiant trochi ‘meddwl dylunio’, a oedd yn weithdy deuddydd cychwynnol, i efelychu'r broses ym mhob tîm sy'n gweithio ar wahanol gamau oes rhaglenni’r SMART Suite (cyn ymgeisio, arfarnu, monitro ac ar ôl cwblhau). Darparwyd mentora a chefnogaeth gan arbenigwyr PDR i uwch arweinwyr y prosiect i gynnal y gweithdai’n annibynnol.

Ar ôl cyfres o weithdai mapio a synio mewn chwe thîm LlC ar wahân, hwylusodd PDR weithdy a ddaeth â thîm cyfan y SMART Suite at ei gilydd (40 staff cyn ymgeisio, gwerthuso, monitro ac ar ôl cwblhau). Yn y gweithdy hwnnw, cawsant eu herio i ddilyn yr holl broses o gael gafael ar gymorth arloesi fel persona penodol er mwyn nodi materion allweddol o ran cysondeb a pha mor hawdd oedd ei ddefnyddio. Profodd hyn yn arbennig o effeithiol wrth nodi dogfennaeth neu wybodaeth newydd a oedd yn effeithio ar brofiad y defnyddiwr. Cynigiwyd tri cham gweithredu pendant gan bob tîm i wella profiad y cwsmer ac fe wnaethant ymrwymo i weithredu’r rhain o ganlyniad i'r gweithdy.

Rwy’n falch o’r hyn y mae ein Tîm Arloesi wedi’i gyflawni, nid yn unig yn croesawu’r dull dylunio gwasanaeth yn ystod yr ymarfer a wnaethom gyda PDR, ond hefyd yn gweithredu’r broses mewn meysydd gwaith eraill. Mae ein gwaith dylunio gwasanaeth yn parhau o fewn y tîm a chaiff ei adolygu gydag uwch reolwyr i sicrhau bod ein hegwyddorion allweddol yn amlwg ac er mwyn gwerthuso ein dull dylunio gwasanaeth.

JULIE CUNNINGTON-HILL | RHEOLWR DATBLYGU, TÎM ARLOESI | LLYWODRAETH CYMRU

Dewch i Drafod

Cysylltu