The PDR logo

Potel Dŵr

Brecon Carreg

Dylunio Potel Dŵr Mwynol am un o ddarparwyr mwyaf dŵr potel yn y DU.

Yng nghanol harddwch Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog mae ffynhonnell warchodedig dŵr mwynol naturiol Brecon Carreg. Mae’r dŵr mwynol naturiol hynod o bur yn dechrau fel glaw sy’n disgyn ar fryniau a dyffrynoedd Cymru. Mae’n cymryd 15 mlynedd anhygoel i hidlo trwy haenau solet o galchfaen cyn gwneud ei ffordd i ble mae’r cwmni yn potelu tua 48miliwn litr y flwyddyn o’r ffynhonnell.

Daeth Brecon Carreg atom i ddylunio potel wedi’i mowldio drwy chwythiad chwistrell, wedi’i hanelu’n benodol at blant i annog yfed mwy o ddŵr a chynnig dewis iachach yn lle dioddydd wedi’u prosesu a’u mesylu’n fwy sydd ar gael.

Gyd athynnu’n ôl diodydd meddal pefriog yn ysgolion y DU a lleihad cyffredinol carbonadau yn y DU, gwelwyd categorïau diodydd ‘iachach’, fel dŵr, yn cael eu derbyn gan ysgolion yn ogystal â rhieni. Mae cydnabyddiaeth gynyddol yhlith gweithwyr proffesiynol bod gorfywiogrwydd, ymddygiad gwael a lefelau canolbwyntio is yn gysylltiedig â diodydd llanw siwgr a’r rhai sy’n cynnwys caffin neu ychwanegion eraill. Mae’r don bresennol o newyddion ynghylch lelfelau gordewdra yn peri problemau diabetes hyd yn oed mewn pobl iau hefyd yn cryfhau’r ddadl dros roi dechrau iachach mewn bywyd i blant y genedl.

Roedd angen i’r dyluniad fod yn addas am gyfleuster potelu a chynhyrchu carlam Brecon Carreg, yn briodol am ddasbarthiad a logisteg effeithlon a chafodd ei anelu at fanwerthwyr archfarchnad mawr yn ogystal ag allfeydd llai o faint. Rhagwelwyd y byddai un potel 300ml yn cael ei darparu mewn pecynnau manwerthu 6 photel a phecynnau cyfanwerthu 30 potel i’w gwerthu’n unigol.

Yn dilyn gwaith dylunio’r cysyniad cychwynnol, cafodd dyluniad ei ddethol a lansiwyd Brecon Carreg for Kids yn hwyrach y flwyddyn honno. Profodd peilot cychwynnol mor boblogaidd ymhlith rhieni ym mherfeddwlad Gymreig y brand iddo gael ei gyflwyno’n raddol dros weddill y DU.

Mae Brecon Carreg yn brand iachus, uchel ei ymddiriedaeth i deuluoedd gweithgar. Felly estyniad rhesymegol i’n safle oedd lansio cynnyrch ar gyfer plant 5-11 oed. Bydd y dyluniad bywiog a thrawiadol yn addas ar gyfer y grŵp oedran hwn a bydd y lluniau o weithgareddau awyr agored, egnïol a welir ar y pecynnau’n apelio at rieni hefyd – yn enwedig y sawl sy’n hoffi treulio amser gyda’u plant yn yr awyr agored.

LIZ SHERRY | RHEOLWR CYFFREDINOL | BRECON CARREG, YN ESBONIO RHESYMEG Y LANSIAD

Dewch i Drafod

Cysylltu