The PDR logo
Ion 10. 2022

Buddugoliaeth Driphlyg i PDR yn y Gwobrau Good Design® 2021

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod PDR wedi ennill 3 o Wobrau Good Design®! Cipiwyd y gwobrau gan CoolSculpting Elite, Female Brace, a Hydroxyl Aura. Nid dyma’r llwyddiant cyntaf i’r tri phrosiect hyn mewn gwobrau, gan fod pob un ohonynt wedi derbyn gwobr iF fis Mai diwethaf, ac nid dyma’r fuddugoliaeth Good Design® cyntaf i’r tîm ychwaith. Mae’r gwobrau hyn yn ffordd wych o ddechrau’r flwyddyn newydd, ac yn gam gwych tuag at barhau i greu dyluniadau effeithiol yn 2022.

Roeddwn wrth fy modd i glywed ein bod ni wedi ennill tair Gwobr Good Design® ym mis Rhagfyr, mae hi’n wastad yn wych gweld ein gwaith yn cael ei gydnabod gan banel o arbenigwyr fel hyn.

Jarred Evans | CYFARWYDDWR | PDR

Ymgeisiodd miloedd o ddylunwyr a chwmnïau i wobrau 2021, o 55 gwlad. Roedd y cynhyrchion a’r cysyniadau’n amrywio o eitemau trydanol, cludiant, offer meddygol, roboteg, celfi, tecstilau, caledwedd, cynhyrchion cartref ac offer cegin newydd i enwi dim ond rhai. Astudiodd y rheithgor bob ymgais, gan brofi crefftwaith, ymarferoldeb, ergonomeg, arloesedd a chynaliadwyedd. Ar ddiwedd y broses feirniadu, gwobrwywyd ychydig dros 1,100 o gynhyrchion, ac mae PDR yn sefyll ymysg sefydliadau byd-enwog yn y rhestr o enillwyr, megis Google, LG, Lenovo, Hyundai, ac mae’r rhestr yn parhau...

Hoffem longyfarch y tîm cyfan unwaith eto am y cyflawniad hwn, ac edrychwn ymlaen at weld yr hyn sy’n ein haros yn 2022!

CAMAU NESAF

Cymrwch olwg ar ein newyddion arall am wobrau, neu i drafod syniad, cysylltwch â ni.