The PDR logo
Ion 08. 2021

Anhygoel! PDR yn ennill pedair o wobrau GOOD DESIGN® 2020

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod PDR wedi ennill pedair o wobrau GOOD DESIGN® 2020 am rai o'n cynnyrch mwyaf arloesol sy'n torri tir newydd ym myd iechyd a gwyddoniaeth.

Mae ein 4 cynnyrch arobryn a fydd yn trin problemau meddygol sy'n effeithio ar bobl ledled y byd yn cynnwys:

Snoozeal®, y ddyfais gyntaf yn y byd a ddefnyddir yn ystod y dydd i drin yr hyn sy’n achosi apnoea a phroblemau anadlu wrth gysgu. Enillodd Snoozeal® hefyd wobr Efydd yng Ngwobrau IDEA 2020 ac fe'i gwnaed ar y cyd â Signifier Medical Technologies.

Brace, brês gyfoes ar gyfer trin Pectus Carinatum (neu frest gul) mewn plant a phobl ifanc. Gwobr arall eto, ar ôl ennill gwobr AUR iF yn 2020 - dyluniwyd ar gyfer R&D Surgical Ltd.

Mae Cooltone, a gynlluniwyd ar gyfer Allergan, yn ddyfais arloesol a ddefnyddir i gryfhau a thynhau màs cyhyrau cleifion. Trwy ysgogi’r cyhyrau yn fagnetig (MMS), mae technoleg Cooltone yn treiddio i haenau'r cyhyrau ac yn ysgogi cyhyrau i gyfangu’n anwirfoddol. Ynghyd â'i wobr newydd, mae Cooltone hefyd wedi ennill gwobrau Red Dot ac iF Design 2020.

Technoleg puro aer newydd a chwyldroadol yw Airora, ac mae’n defnyddio technoleg batent unigryw i lanhau aer ac arwynebau noeth mewn ystafell gan ddefnyddio technoleg cynhyrchu Hydroxyl naturiol. Fe’i datblygwyd gyda Hydroxyl, a dyma wobr gyntaf y cynnyrch hwn – ond mae’n debygol o fod y gyntaf o lawer.

Wrth siarad am ein llwyddiant anhygoel, dywed Cyfarwyddwr PDR, Jarred Evans: "Canlyniad anhygoel! A dechrau gwych i 2021 - anrhydedd haeddiannol i'n tîm hynod weithgar."

Mwy am Wobrau GOOD DESIGN®

Ers eu sefydlu 70 mlynedd yn ôl, mae gwobrau GOOD DESIGN® wedi gwobrwyo dyluniadau cyfoes o bob cwr o'r byd. Mae'r gwobrau'n cydnabod y cynhyrchion a'r dylunwyr hynny sydd wrthi'n gyson yn torri tir newydd, gan greu dyfodol newydd i fyd dylunio diwydiannol a gwobrwyo’r goreuon am ragoriaeth ym maes dylunio bob blwyddyn.

Canlyniad anhygoel! A dechrau gwych i 2021 - anrhydedd haeddiannol i'n tîm hynod weithgar.

JARRED EVANS | RHEOLWR GYFARWYDDWR | PDR