The PDR logo
Maw 19. 2021

Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn dyfarnu dwy Gymrodoriaeth i PDR

Rydyn ni’n hapus i rannu ein newyddion diweddaraf ar Gymrodoriaethau Ymchwil Dylunio Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a ddyfarnwyd i ddau aelod o dîm PDR, Dr Katie Beverley, Uwch Swyddog Ymchwil a Dr Anna Whicher, Cyfarwyddwr Cyswllt Ymchwil.

Llwyddodd Katie ac Anna i gael dwy o’r chwech o Gymrodoriaethau a ddyfarnwyd, gan roi’r cyfle iddynt gynnal gwaith ymchwil arloesol o safon uchel ac i wneud gweithgareddau datblygu cydweithredol ac arloesol.

I Dr Katie Beverley, ein harbenigwr preswyl mewn dylunio cynnyrch cynaliadwy, roedd ei Chymrodoriaeth yn canolbwyntio ar ‘ymchwil dylunio ar gyfer net sero’. Yn ei hanfod, golyga hyn ymchwilio i’r graddau y mae ymchwil dylunio yn y DU yn cyfrannu at ymgais y DU i gyrraedd allyriadau sero net erbyn 2050 a gwneud argymhellion a fyddai’n cynyddu amlygrwydd ac effaith hyn.

Roedd canfyddiadau Katie’n cynnwys y canfyddiad nad oes gweledigaeth gydlynol o beth yn union yw ymchwil dylunio ar gyfer net sero, neu beth a allai fod; un o’i hargymhellion yw y gallai’r cynghorau ariannu ei gwneud yn llawer haws i ymchwilwyr dynnu sylw at y ffordd y mae eu prosiectau yn cyfrannu at leihau allyriadau carbon y DU.

Sylweddolodd Katie hefyd fod ymchwilwyr dylunio ar hyd a lled y DU eisoes yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o brosiectau sy’n mynd i’r afael â sero net, ond nad yw eu rôl a’u heffaith yn amlwg bob amser, ac mae angen i ni, fel gwlad, fod yn llawer gwell am ddangos ein doniau.

Credaf fod dylunio mewn sefyllfa unigryw i ddylanwadu ar y newidiadau technolegol a chymdeithasol sy’n angenrheidiol er mwyn cyflawni’r targed – gan roi pobl ar flaen ac yng nghanol y broses o bontio i ddyfodol di-garbon.

DR KATIE BEVERLEY | UWCH SWYDDOG YMCHWIL | PDR

Wrth sôn am y grant a ddyfarnwyd iddi, meddai Katie: “Rydw i wrth fy modd bod o gael y gymrodoriaeth hon, sy’n edrych ar rôl ymchwil dylunio wrth fynd i’r afael ag un o’r heriau mwyaf difrifol y mae’r DU yn ei hwynebu o bosibl – sut i dorri allyriadau carbon i ‘sero net’ erbyn 2050.

“Credaf fod dylunio mewn sefyllfa unigryw i ddylanwadu ar y newidiadau technolegol a chymdeithasol sy’n angenrheidiol i gyflawni’r targed– gan roi pobl ar y blaen ac yn nghanol y broses o bontio i ddyfodol carbon sero.”

Ar ôl cwblhau ei Chymrodoriaeth ym mis Mehefin 2020, cafodd adroddiad Anna ar gynyddu’r defnydd o ddylunio er mwyn adfywio prosesau polisi cyhoeddus ei ddosbarthu yn eang ymysg swyddogion y llywodraeth.

Roedd rhan o ganfyddiadau Anna’n cynnwys y ffaith bod yn rhaid i’r DU wneud mwy i greu deialog mwy agored rhwng dinasyddion a’r wladwriaeth, a chyflwyno newidiadau i brosesau’r sector cyhoeddus yn seiliedig ar y rhyngweithio hwn. "Mae’r cyhoedd wedi colli hyder mewn prosesau llywodraethu cyhoeddus gwaetha’r modd. Rydyn ni angen ailgyflwyno empathi i’r broses o wneud polisïau ac mae hynny’n cychwyn drwy wrando ar y bobl sydd angen y gwasanaethau hyn fwyaf,” meddai Anna.

Mae yna ddiddordeb cynyddol ymysg gweision sifil y DU a thramor mewn dylunio ar gyfer polisïau. Mae gan y DU gyfle i arwain yr agenda ac mae PDR mewn sefyllfa wych i gyfrannu at yr agenda ymchwil a chefnogi’r llywodraeth a labordai i roi’r dulliau hyn ar waith.

DR ANNA WHICHER | CYFARWYDDWR CYSWLLT YMCHWIL | PDR

Yn dilyn ei hadroddiad, cafodd wahoddiad i helpu i gefnogi’r gwaith o ffurfio ymgynghoriad llywodraeth ganolog ymysg gweision sifil ar adfywio’r Proffesiwn Polisi er mwyn sicrhau bod eu gwaith o lunio polisïau yn ‘canolbwyntio ar ddefnyddwyr’ i raddau mwy. Mae wrthi’n sefydlu labordy mewn adran llywodraeth ganolog hefyd.

Wyth mis yn ddiweddarach, wrth bwyso a mesur y broses o gwblhau’r gwaith ymchwil, meddai Anna: “Mae diddordeb cynyddol ymysg gweision sifil y DU a thramor ar ddylunio ar gyfer polisi. Mae gan y DU gyfle i arwain ar yr agenda ac mae PDR mewn sefyllfa wych i gyfrannu at yr agenda ymchwil a chefnogi’r llywodraeth a labordai er mwyn rhoi’r dulliau hyn ar waith.”

Hoffem longyfarch Katie ac Anna unwaith eto am y Cymrodoriaethau a ddyfarnwyd iddynt ar ôl yr holl waith caled ac am y gwaith rhagorol mae nhw wedi’i gyflawni o ganlyniad; rydyn ni’n edrych ymlaen at rannu mwy o’u canfyddiadau a’u gwaith ymchwil.

Gallwch ddysgu mwy am waith PDR, neu i drafod syniad, cysylltwch â ni.