The PDR logo
Maw 04. 2021

Diffinio eich Cynnyrch Newydd Nesaf: Pam Mae Hynny’n Bwysig?

PDR

Heb ddealltwriaeth fanwl o brofiad y defnyddiwr terfynol, gall cynnyrch newydd droi’n fethiant yn fuan iawn. Dyna pam mae Jarred Evans, Rheolwr Gyfarwyddwr, ac Alistair Ruff, Arweinydd Dylunio sy’n Canolbwyntio ar Ddefnyddwyr, yn PDR yn credu bod diffinio cynnyrch yn glir yn hanfodol i’w lwyddiant. Aethom ati i ofyn i’r ddau ohonynt drafod y broses ac egluro pam eu bod yn credu y gall pob busnes elwa ar y dull hwn.

BETH YW YSTYR DIFFINIO CYNNYRCH?

Mae llawer o gwmnïau’n cael llwyddiant gyda’u cynnyrch cyntaf ond yn cael trafferth parhau â’r llwyddiant hwnnw. Eglura Alistair: "I barhau’n llwyddiannus, mae angen i fusnesau nodi cyfleoedd newydd. Gallai hynny gynnwys creu cynnyrch newydd neu ailddiffinio’r arlwy cyfredol.

"Y ffordd orau o gyflawni hynny yw drwy fynd i’r afael â heriau defnyddwyr. Mae’n fwy na nodi problem a datblygu ateb: mae’n golygu dangos empathi tuag at ddefnyddwyr a deall y ffordd y mae’r broblem yn cyfyngu arnyn nhw mewn un ffordd neu’r llall.

“Wedyn, gallwch ddechrau dylunio cynnyrch neu wasanaeth sy’n datrys hynny.”

PAM MAE DIFFINIO CYNNYRCH MOR BWYSIG I FUSNES?

Drwy fynd ati’n ofalus i ystyried anghenion defnyddwyr, gall busnesau ddylunio cynhyrchion y mae defnyddwyr yn frwdfrydig ynghylch eu prynu. Cytuna Jarred: "Heb y broses gychwynnol honno ar waith, gallech chi wastraffu llawer o amser ac arian yn ateb y cwestiwn anghywir.

Os nad yw busnesau’n diffinio’n eu cynnyrch neu eu gwasanaeth newydd yn glir, gallan nhw ganfod eu hunain gyda chysyniad sy’n mynd i’r cyfeiriad anghywir o’r cychwyn. Bydd hynny’n golygu y bydd fersiynau’r dyfodol yn ddiffygiol bob amser. Yn y sefyllfa waethaf, mae busnesau’n wynebu’r risg o wastraffu miliynau’n dylunio’r cynnyrch anghywir.

JARRED EVANS | RHEOLWR GYFARWYDDWR | PDR

Ychwanega Alistair: "Er mwyn atal y broblem honno, mae angen cynnwys defnyddwyr yn gynnar yn y broses ddylunio. Mae digon o enghreifftiau o gynhyrchion sydd wedi’u dylunio’n dda sydd wedi methu oherwydd doedden nhw ddim yn diwallu angen gwirioneddol.

"Mae’r peiriant creu sudd $400 Juicero yn dod i’r meddwl. Roedd yn beiriant eithriadol o ddeniadol a oedd yn gwasgu pecynnau o ffrwythau a llysiau er mwyn creu sudd gartref - ond roedd modd cael union yr un canlyniadau â llaw. Doedd e ddim yn datrys problem i unrhyw un – felly methodd y cynnyrch penodol hwnnw.

“Un enghraifft o gynnyrch wedi’i ddiffinio a’i ddylunio’n wael oedd y fflôt pwll a oedd yn debyg i bad misglwyf; mae hyn wir yn dangos pam rydych chi angen cael ystod amrywiol o bobl yn yr ystafell i holi pam byddai’r cynnyrch hwnnw’n cael ei ddylunio yn y ffordd honno.

“A allwn ni ddim siarad am ddyluniadau sydd wedi methu heb gyfeirio at y rhifyn clasurol o The Simpsons ym 1991 lle gwnaeth dyluniad Homer o gar y dyfodol anfon cwmni cyfan i'r wal. Cartŵn ydyw, wrth gwrs, ond mae’n enghraifft dda serch hynny o’r hyn sy’n gallu digwydd pan rydych chi’n dylunio’r hyn rydych chi’n credu y mae defnyddwyr am ei gael, yn hytrach na’r hyn y gwyddom y mae defnyddwyr ei angen.”

SUT GALL DIFFINIO CYNHYRCHION FOD O FUDD I FUSNESAU?

Gall deall defnyddwyr terfynol gael effaith drawsnewidiol ar fusnesau.

Gall diffinio cynhyrchion arwain busnesau at gyfleoedd doedden nhw ddim yn ymwybodol ohonyn nhw hyd yn oed. Gall eu helpu i ehangu’r hyn maen nhw’n ei gynnig ac i newid cyfeiriadau er mwyn cyflawni nodau busnes ehangach y cwmni.

ALISTAIR RUFF | ARWEINYDD DYLUNIO SY’N CANOLBWYNTIO AR DDEFNYDDWYR | PDR

BETH YW RÔL PDR?

“Mae llawer o fusnesau’n mynd drwy’r broses o ddiffinio cynnyrch mewn un ffordd neu’r llall," meddai Jarred, "Mae PDR yn dod â strwythur i’r broses honno.

“Diolch i 30 mlynedd bron o brofiad, ynghyd â chefndiroedd amrywiol ein tîm ym meysydd dylunio a’r byd academaidd, mae gan fusnesau hyder eu bod yn mynd i’r cyfeiriad cywir.

"Gallan nhw lywio’r broses ddylunio, gan fod yn dawel eu meddwl o wybod bod eu cynnyrch neu eu gwasanaeth newydd yn canolbwyntio ar bobl ac yn cyd-fynd ag anghenion gwirioneddol.”

BETH NESAF?

Dysgwch fwy am y ffordd rydyn ni’n helpu busnesau i ddiffinio eu cynnyrch newydd nesaf – darllenwch am y cymorth a gafodd Kenwood, Allergan a’r Principality i wneud yr union beth hwnnw.

Barod i drafod syniad? Cysylltwch â ni.