The PDR logo
Chw 16. 2023

Archwiliwch y 3 chynnyrch arloesol sy'n ymddangos ym Mlwyddlyfr newdesigners 2023

Rydym yn hynod falch o gael ein cynnwys ym mlwyddlyfr newdesign ar gyfer 2023. Mae'r cyhoeddiad uchel ei fri hwn yn nodweddedig o ansawdd y dylunio dros y flwyddyn, sy'n cynnwys y gorau yn y Deyrnas Unedig.

Mae'r cylchgrawn newdesign wedi sefydlu ei hun fel cyhoeddiad pwysig y byd dylunio sy'n cwmpasu cynhyrchion, arloesedd, gwasanaethau, a'r broses ddylunio yn ei holl ffurfiau. Mae'r rhifyn hwn yn ymdrin â llawer nifer o agweddau dylunio ac yn trin a thrafos sut mae ymgynghoriaethau dylunio wedi helpu cleientiaid i sicrhau llwyddiant ar draws y sectorau defnyddwyr, trafnidiaeth, meddygol a gofal iechyd, diwydiannol a dylunio gwasanaethau dros y flwyddyn ddiwethaf.

Yn y rhifyn 2023 hwn, rydym yn falch o gael arddangos 3 o'n cynhyrchion cyffrous, arloesol diweddar a ddatblygwyd yn ystod y 12 mis diwethaf.

Cercle - Olwyn Llywio Cynaliadwy ar gyfer y Dyfodol.

Cercle yw'r olwyn lywio modurol gyntaf i fabwysiadu dull economi gylchol lawn o ddylunio, sy’n hawdd i’w ddatgymalu a’i ailgylchu ar ddiwedd ei oes, wrth ymgorffori rheolyddion cymhleth ac adborth haptig ar ffurf draddodiadol o ansawdd uchel.

Shield - Stand Bag Nos Ysbyty.

Mae Shield yn ailgynllunio'r bagiau a'r fframiau a ddefnyddir ar gyfer cathetrau, wedi’i gynllunio i gynnig cynnyrch sefydlog a diogel i gleifion. Roedd ei gynaliadwyedd yn rhan hanfodol o'r dyluniad; mae'n defnyddio deunydd lapio a gorchuddion hambwrdd sterileiddio plastig untro wedi'u hailgylchu, a ddefnyddir yn gyffredin mewn theatrau llawdriniaethau ysbytai.

Hydroxyl Aura - Purwr Aer Gwisgadwy.

Mae Aura yn burwr aer personol gwisgadwy sy'n darparu amddiffyniad chwyldroadol i ddefnyddwyr. Mae halogiad yn yr awyr o bathogenau a llygredd yn bryder cynyddol. Mae Aura yn defnyddio technoleg patent chwyldroadol i gynhyrchu radicalau Hydrocsyl sy'n creu cwmwl o aer glân, di-haint o flaen wyneb defnyddiwr.

Fel erioed, mae'n anrhydedd i ni gael sylw yn y Blwyddlyfr newdesign 2023 hwn.

Mae arddangos ein prosiectau ar lwyfan byd-eang cyhoeddus iawn bob amser yn sbardun i wthio ein hunain i gynhyrchu'r canlyniadau dylunio gorau posibl yn PDR.

Y CAMAU NESAF

Archwiliwch ein prosiectau dylunio cynnyrch neu darllenwch fwy o'r newyddion diweddaraf yn PDR.