The PDR logo
Hyd 21. 2021

PDR yn ennill Gwobr Red Dot Concept yn y categori Cynaliadwyedd ar gyfer Shield

Rydym yn gyffro i gyd i gyhoeddi bod PDR newydd ennill Gwobr Red Dot: Design Concept ar gyfer Shield yn y categori Cynaliadwyedd!

Adluniad syml, cost isel o’r bagiau a’r fframiau a ddefnyddir ar gyfer cathetrau yw Shield, y’i dyluniwyd i gynnig cynnyrch cynnil, sad a sicr i gleifion. Roedd ei gynaliadwyedd yn rhan hanfodol o’r dyluniad; mae’n defnyddio deunydd lapio hambyrddau a llenni sterileiddio plastig tafladwy untro, y’u defnyddir yn gyffredin mewn theatrau llawdriniaethau ysbytai, wedi’u hailgylchu a fyddai’n mynd i safleoedd tirlenwi fel arall.

Gan sôn am y fuddugoliaeth, dywedodd Ben Nolan, Cyfarwyddwr Cyswllt, Dylunio: “Mae ennill gwobr Red Dot Concept yn wych; ond mae’n drueni y byddwn yn colli’r parti yn Singapore, rwy’n clywed ei fod yn un da! Bydd rhaid inni ennill un arall dyna’i gyd...”

Bu PDR ar flaen y gad o ran dylunio cynnyrch cynaliadwy ers degawd a mwy ac rydym yn parhau i wthio’r agenda hon yn ein gwaith dylunio.

Ben Nolan | CYFARWYDDWR CYSWLLT, DYLUNIO | PDR

O ran y cynnyrch a’i nodweddion, eglura Ben, “Mae cynaliadwyedd yn hanfodol inni i gyd, i leihau ein heffaith ar y blaned. Bu PDR ar flaen y gad o ran dylunio cynnyrch cynaliadwy ers degawd a mwy ac rydym yn parhau i wthio’r agenda hon yn ein gwaith dylunio, gan achub ar y cyfle i gynnig arfer dylunio cynaliadwy i’n cleientiaid.”

 Ben yn ei flaen, “Dim ond y gwobrau dylunio mwyaf mawreddog sydd â’r beirniaid llymaf yr ydym yn rhoi cynnig arnynt felly mae hi bob tro’n anrhydedd i ennill! Mae gwobr y Red Dot Concept yn un arbennig o anodd ei chael – dim ond ichi edrych ar y rhestr enillwyr, byddwch yn sylweddoli mai dim ond y timau dylunio gorau yn y byd sy’n derbyn y gwobrau hyn.

“Ac o ran Shield a’i ddyfodol? Cadwch eich llygaid ar agor...”

YNGLŶN Â’R GWOBRAU

Fel braich o’r gwobrau Red Dot gwreiddiol, sefydlwyd Gwobrau’r Red Dot Concept fel cyfle pwrpasol i gwmnïau werthuso a chynnig cysyniad arloesol. Mae’n cynnig cyfle i asesu ymatebion gan y farchnad a chyfoedion; mae’n faes chwarae i brofi syniadau newydd a phrosiectau sy’n torri tir newydd.

Y categori Cynaliadwyedd yw’r dosbarth sy’n asesu cynnyrch ar gyfer eu ‘dyluniad cynaliadwy ... lleihau gwastraff, ailgoedwigo, cynhyrchion hir oes, diogelu a chadwraeth amgylcheddol...’ a mwy.

Ys dywed Ben, “Mae’r cynnyrch Shield yn ymwneud yn llwyr â Chynaliadwyedd; mae’n gweddu i nodweddion y deunydd wedi’i ailgylchu’n berffaith ac mae’n ffordd wych o ailbwrpasu’r deunydd gwastraff i gynnyrch sy’n cael effaith wirioneddol gadarnhaol ar gleifion.”

Hoffem longyfarch gweddill y tîm yn PDR a fu’n gweithio ar Shield – pob lwc i’r un nesaf!