The PDR logo

Sonicaid MD200

Huntleigh Healthcare

Dyluniad Doppler Pen-desg am gyfer Monitro Diagnistig Obstetrig a Fasgwlaidd.

Mae Huntleigh Diagnostics Ltd yn ddarparwr byd-eang blaenllaw offer meddygol arloesol o’r radd flaenaf i weithwyr proffesiynol gofal iechyd. Mae’r Adran Cynhyrchion Diagnostig yn ymfalchïo mewn brandiau sy’n arwain y byd fel Dopplex, Hydroven, Sonicaid, a Smartsigns o fewn ei phortffolio gan gwmpasu gofynion gofal iechyd ym maes Asesu a Thrin Fasgwlaidd, ac Obstetreg a Monitro Cleifion.

Mae gennym berthynas hir â Huntleigh, rydym wedi gweithio’n agos ar amrediad eang o gynhyrchion dros gyfnod hir.

CYFLEUSTOD PEN-DESG, TECHNOLEG DDIBYNADWY A PHROFEDIG

Daeth Huntleigh atom i’w helpu i ddylunio cynnyrch a fyddai’n ddelfrydol i glinigwyr sydd angen uned Doppler mwy o faint, wedi’i phweru o’r prif gyflenwad na’i unedau doppler llaw holl-bresennol a blaenllaw.

Roedd yr uned wedi’i hanelu at glinigwyr sydd eisiau uned Doppler pen-desg sy’n hyblyg, yn ailwefradwy, gwydn sy’n fwy addas i’w lleoli’n sefydlog. Byddai’r cynnyrch yn gallu defnyddio hyd at 8 prob cyfnewidiol a oedd eisoes wedi’u lansio a gallai gael ei ddefnyddio i fesur cyfradd calon ffetws neu lif gwaed fasgwlaidd yn gywir.

OFFERYN BYD-EANG SEFYDLEDIG

Wedi’i weithredu o’r prif gyflenwad neu fatris, mae gan y cynnyrch gyfleuster i’w osod ar yr ywneb neu ar stondin roll, dangosydd cyfradd calon ffetws a dau ddarseinydd ar gyfer sain well.

Wedi’i ddlunio’n gyflym ac o gwmpas technoleg graidd a oedd eisoes yn bodoli o fewn y cwmni, mae’r MD200 wedi mynd ymlaen i fod yn un o hanfodion portffolio Huntleigh Diagnostics ac wedi’i leoli yn swyddfeydd gweithwyr proffesiynol gofal iechyd ledled y byd.

Dewch i Drafod

Cysylltu