The PDR logo
Chw 14. 2022

Dylunio arloesi yn y sector nwyddau tŷ

I ddylunio cynhyrchion chwyldroadol ac arloesol i’r cartref, mae angen llawer o'r sgiliau y byddech yn dod ar eu traws wrth ddatblygu nwyddau electronig i ddefnyddwyr a dyfeisiau meddygol. Mae defnyddio Mewnwelediad Defnyddwyr a Dylunio sy'n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr gyda syniadau datrys problemau i wella ansawdd bywyd a phrofiad defnyddwyr wrth graidd y gwaith o ddatblygu cynhyrchion arloesol yn unrhyw un o'r sectorau hyn - ac mae hynny'n golygu atebion ar gyfer nwyddau i’r tŷ a'r gegin hefyd.

GWELLA OFFER CEGIN GYDA KENWOOD

Mae Kenwood yn enw cyfarwydd iawn mewn ceginau a nwyddau tŷ Prydeinig, ac yn frand nwyddau tŷ yr ydym ni yn PDR wedi gweithio’n agos ag ef yn gyson ers nifer o flynyddoedd. Roedd ein gwaith gyda Kenwood yn cynnwys dod o hyd i gyfleoedd â chefnogaeth mewnwelediad i wella profiad cwsmeriaid o brynu nwyddau tŷ a chynhyrchion Kenwood. Er mwyn deall yn well pam a sut yr oedd pobl yn prynu eu cynnyrch, fe wnaethant ofyn inni fapio profiad y cwsmer o brynu eu cynhyrchion cegin, er mwyn nodi cyfleoedd ar gyfer datblygiadau newydd a chynhyrchion a gwasanaethau nwyddau tŷ posibl yn y dyfodol. O ganlyniad i'n gwaith gyda'r cwmni, troswyd y mewnwelediadau allweddol a ddarganfuwyd gennym yn gysyniadau dylunio cynnyrch a gwasanaethau arfaethedig, yn ogystal â meysydd cyfle eraill a amlygwyd er mwyn i Kenwood wella profiad y cwsmer gyda’u dewis o gynhyrchion cegin.

Roedd gweithio gyda PDR yn brofiad gwych ac mae allbwn y gwaith yn dal i gael ei ddefnyddio heddiw wrth ddiffinio nwyddau tŷ a chegin newydd yn Kenwood.

RHEOLWR ARLOESI | KENWOOD

DYLUNIO ANSAWDD BYTHOL MEWN TWTIO PERSONOL, DODREFN A MWY

Y tu hwnt i'r gegin, mae PDR wedi datblygu cynhyrchion graenus a modern i'w defnyddio drwy’r cartref i gyd neu fannau masnachol.

Fe wnaeth ein gwaith i ddylunio'r Razor R1 - y cynnyrch cyntaf un yn newis arobryn Bolin Webb o gynnyrch twtio personol - greu glasbrint i'r rhai a ddilynodd. Bellach ar werth yn Fortnum & Mason, John Lewis a Harrods, mae'n enghraifft wych o ansawdd bythol gyda sawl gwobr i’w enw.

Gan weithio gyda Mothercare, datblygom gasgliad o ddodrefn mamolaeth yn gyflym gan gynnwys cotiau, gwelyau dydd, cwpwrdd dillad, dodrefn storio a chypyrddau wrth ochr y gwely, ac fe enillom Wobr Red Dot Design mawreddog ym mlwyddyn ei lansio.

Y tu hwnt i'r cartref (ond yn ôl i'r gegin!) yw ble y dewch o hyd i’n gwaith gyda Las Iguanas, bwyty cadwyn cenedlaethol ac enw cyfarwydd ym maes bwyd Lladin-Americanaidd. Mae dyluniad ein 'pentwr fajita' wedi’i ymgorffori’n rhan o'r profiad bwyta theatrig cyffredinol i ddefnyddwyr; rhan annatod o wead unrhyw ymweliad â'r bwyty.

DYLUNIO A DATBLYGU NWYDDAU TŶ CHWYLDROADOL

Mae cynhyrchion i’r cartref yn cwmpasu amrywiaeth eang o gynhyrchion y gall PDR gefnogi sefydliadau wrth ddylunio a datblygu pob un ohonynt. Gallwn eich cefnogi i ddatblygu dyfeisiau cegin trydanol, offer ac eitemau cegin cyffredinol fel cyllyll a ffyrc, dodrefn, deunydd storio a threfnwyr, a gallwn ddatblygu cynhyrchion DIY ac offer pŵer megis driliau llaw a dyfeisiau sy'n gysylltiedig â'r ardd megis pibelli dŵr ac atebion i reoli dyfrio.

Mae gan PDR brofiad o ddylunio offer electronig i ddefnyddwyr gan gynnwys gorchuddion ffonau symudol, setiau teledu, teclynnau rheoli o bell, llwybryddion, dyfeisiau rhwydwaith a goleuadau.

O ran offer i’r cartref, gall PDR gefnogi sefydliadau wrth ddylunio a datblygu microdonnau, tostwyr, tegellau, cyflyrwyr aer ac oergelloedd. Yn syml, nid oes unrhyw rwystrau yn y bôn i'r math o gynhyrchion y gall PDR eu dylunio a'u datblygu ym maes nwyddau i’r tŷ a'r gegin.

CANOLFAN FYD-EANG I ARDDANGOS DATBLYGIADAU NEWYDD MEWN NWYDDAU TŶ - AMBIENTE

Ledled y byd, mae’r sector nwyddau tŷ yn un cystadleuol iawn - a wnaed hyd yn oed yn amlycach gan y nifer helaeth o frandiau a sefydliadau byd-eang sy'n arddangos eu cynhyrchion a'u gwasanaethau yn Ambiente, y ffair fasnach ryngwladol flaenllaw ar gyfer cynhyrchion o fyd ciniawa, coginio, eitemau i’r cartref, dodrefn, addurniadau a dylunio mewnol.

Dyna pam ym mis Chwefror unrhyw flwyddyn nodweddiadol, gallwch fod yn siŵr o ddod o hyd i aelodau o dîm PDR yn arddangos ein dyluniadau a'n methodolegau yn Ambiente. Ond nid yw 2022 yn flwyddyn nodweddiadol - yn debyg iawn i 2021 hefyd - ac yn anffodus mae'r digwyddiad wedi'i ganslo am flwyddyn arall oherwydd sefyllfa'r pandemig sy’n gwaethygu'n gynt yn fyd-eang a'r rheoliadau teithio a chyswllt llymach cysylltiedig.

Mae'r arddangosfa'n cynnal ystod eang o ddigwyddiadau diwydiant, cyflwyniadau ar dueddiadau a seremonïau gwobrwyo gan gynnwys Gwobrau Dylunio'r Almaen (yr ydym wedi casglu sawl un ohonynt ar hyd y blynyddoedd sy’n ymdrin â phrosiectau ar draws nifer o sectorau).

Gyda mwy na 2,400 o arddangoswyr o 74 o wledydd wedi'u cadarnhau i gymryd rhan a chyflwyno eu cynhyrchion diweddaraf yn 2022, mae'n drueni mawr gweld y digwyddiad yn cael ei ganslo - ond er diogelwch ei westeion, mae'n gwbl ddealladwy. Os bydd popeth yn mynd yn dda, edrychwn ymlaen at weld ein cyd-arddangoswyr yn 2023!

Y CAMAU NESAF

Dysgwch ragor am ddylunio cynnyrch arobryn PDR - neu i gychwyn eich prosiect newydd nesaf gyda ni, cysylltwch â ni.