The PDR logo
Rhag 13. 2022

Ein crynodeb o Ffair Fasnach MEDICA 2022

Roeddem mor falch o gael dychwelyd i Ffair Fasnach MEDICA yn Dusseldorf, yr Almaen eleni.. Ers dros 20 mlynedd, rydym wedi cydweithio a’r enwau mwyaf adnabyddus yn y sector gofal iechyd yn MEDICA i ddangos ein portffolio dylunio a'r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig. Ar ôl i ni orfod gohirio ein teithiau blynyddol yn 2021 a 2020 oherwydd rheoliadau COVID-19, roedd yn wych cael bod yn ôl o'r diwedd!

Teithiodd ein Cyfarwyddwr Jarred Evans a’n Rheolwr Datblygu Busnes, Anthony McAllister, fel rhan o grwp o 200 o aelodau Llywodraeth Cymru.

“Treuliais llawer o fy amser yn symud ar draws yr 17 neuadd, yn ymgysylltu â chwmnïau eraill a darpar gydweithwyr newydd, ond yn yr un modd roedd yn wych cael treulio amser gyda hen gleientiaid, yn enwedig ar ôl 2 flynedd i ffwrdd o’r digwyddiad,” eglurodd Anthony. “Rydyn ni wedi cadw mewn cysylltiad â phawb fwy neu lai dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ond nid yw byth yr un peth â gweld ein gilydd wyneb yn wyneb!”

Roedd Huntleigh Healthcare y gwnaethom gynhyrchu'r Sonicaid Team 3 a'r DMX Doppler, ymhlith llawer o rai eraill, yn un o'r wynebau cyfeillgar i ni weld. “Buom hefyd yn siarad â llawer o ddarpar gydweithwyr newydd, gyda chyfleoedd gwych ar y gweill” meddai Anthony.

“Rydym ni gweithio gyda chwmnïau i archwilio eu map ffordd ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau newydd, fel y gallwn eu helpu i greu cyfleoedd, neu ddod o hyd i rai newydd nad ydynt wedi’u hystyried o'r blaen. Dyna’r hyn yr ydym yn eiwneud mewn sioeau fel MEDICA, creu cysylltiadau newydd gyda sefydliadau y gallwn eu cefnogi a gweithio gyda nhw.”

Fel bob amser, mae neuaddau MEDICA yn gartref i rai dechnolegau a syniadau arloesol yn y byd meddygaeth. “Roedd rhai o’r syniadau diddorol a welsom yn y sector 'technolegau gwisgadwy'. Rydym wedi hen sefydlu yn y maes hwn, efallai mai Brace yw ein cynnyrch mwyaf adnabyddus yma, neu The Assure, sef system rhybuddio personol chwyldroadol, ond roedd archwilio'r syniadau diweddaraf a gweld yr hyn y mae ein cyfoedion yn ei ddatblygu ar hyn o bryd yn ddiddorol iawn,” eglurodd Anthony.

O synwyryddion ffrwythlondeb gwisgadwy i fonitorau pwysedd gwaed, fe welsom lawer o gynhyrchion a thechnolegau newydd cyffrous ac arloesol ac roeddem yn falch o gysylltu â chwmnïau newydd o sawl un o’r chwe deg chwech o wledydd a oedd yn bresennol.

“Roedd y fath egni am y lle, a pobl yn eithaf cyffrous i ddychwelyd i'r digwyddiad. Roedd yna lawer o sgyrsiau, dadleuon iach, bu’n ddigwyddiad prysur iawn, ac yn teimlo bod pawb yno yn hapus i gael MEDICA yn ôl!”

Felly, a fyddwn ni yno yn 2023? Wrth gwrs!

Hoffem ddiolch i'n carfan 2022 am wneud y digwyddiad dychwelyd mor wych ag erioed - rydym yn siŵr o ddod yn ôl gyda mwy o ddiweddariadau gan gydweithrediadau newydd yn fuan.


Camau nesaf

Darllenwch fwy am ein gwaith arall ym maes Datblygu Dyfeisiau Meddygol neu os ydych am drafod prosiect newydd gyda ni, cysylltwch â ni.